Wil ac Aeron : Taith Yr Alban

S4C | 5 x 30munud | Cwmni Da / Cynyrchiadau Hay

Mae Wil Hendreseifion ac Aeron Pughe yn gwireddu breuddwyd drwy fynd ar daith 1500 o filltiroedd i’r Alban.

Dau ffermwr o Bro Ddyfi sy’n teithio’r byd yn profi diwylliannau gwledig ydy Wil Hendreseifion ac Aeron Pughe.

Yn y gyfres yma, maen nhw’n gwireddu breuddwyd drwy fynd ar daith 1500 o filltiroedd i’r Alban – a hynny mewn hen groc o gamperfan. Bydd ambell i her anodd a hosan fudr – a digonedd o brofiadau cofiadwy wrth iddyn nhw fynd ar daith i ddarganfod ffordd o fyw yng nghefngwlad yr Alban.