Wrecsam ’di Wrexham
S4C | 6 x 30munud
Olrhain hanes adfywiad tref fwyaf gogledd Cymru
“Ychydig o flynyddoedd yn ôl roedd Wrecsam wedi colli ei identity bron oherwydd bod y clwb pêl-droed mewn perygl go iawn, y lager wedi mynd, a’r Saith Seren, un o adeiladau mwya’ adnabyddus y dref ar gau,” meddai Marc Jones, Cyfarwyddwr Cydweithredol Canolfan Gymraeg a Thafarn y Saith Seren.
Ond mae’r sefyllfa yn dra gwahanol heddiw gyda sefydlu Canolfan Gymraeg gydweithredol y Saith Seren, ail agor bragdy Wrexham Lager ac wrth gwrs, achub y clwb pêl-droed. A phwy gwell i adrodd yr hanes na rhai o gymeriadau tref Wrecsam?