Y Côr
S4C | 1 x 60munud
Ffilm ddogfen gynnes a theimladwy am Gôr Meibion Trelawnyd, un o gorau mawr Cymru.
Ers sefydlu’r côr yn 1933, mae ardal y gogledd-ddwyrain wedi profi newid mawr. Disodlwyd y diwydiannau trymion, glo a haearn, gan dwristiaeth; a datblygodd cymdeithas fwy mudol a thymhorol yn ei sgîl; ac mae sefyllfa bresennol y côr yn adlewyrchiad o’r newidiadau hyn.
Bellach, mae cyfartaledd oedran y côr yn 74, ac os ydi o am oroesi, mae angen aelodau newydd. Dilynwn ymdrechion Ed, Merf, Gwyn ac eraill i recriwtio, a chael cipolwg ar eu bywyd pob dydd yn y broses.