Y Gelli

S4C | 16 x 11munud

Cyfres Japaneaidd addysgol yn wreiddiol sydd wedi ei ddisgrifio fel ‘ffenomenon’ yn Japan.

Ymunwn â’r ddau brif gymeriad animeiddiedig, sef brawd a chwaer o’r enw Gwion a Ffion ap Cŵl wrth i’r ddau annog gwylwyr i gymryd rhan gyda nhw mewn amryw o bosau rhyngweithiol ym myd ffantasi coedwig ‘Y Gelli’.

Mae Gwion a Ffion yn arwain y plant trwy’r gwahanol gemau, sy’n cynnwys rhifo, cofio, gwrando a datrys posau fel gweld gwahaniaeth mewn lluniau animeiddiedig. Yn ogystal â’r posau fe welwn y cartŵn Ysgol Obetomo, gan y dylunydd Obetomo.

Hefyd ar ddangos fydd gwaith yr artist Osian Efnisien o Borthmadog a ddyluniodd y cymeriadau Gwion a Ffion yn arbennig ar gyfer y fersiwn Gymraeg.

“Ro’n i’n meddwl y byddai creu cymeriadau animeiddiedig newydd yn gweddu i’r gyfres gan mai animeiddiadau syml ydi’r rhan fwyaf o’r posau,” meddai Nici Beech, cynhyrchydd y fersiwn Gymraeg. “Dwi’n siŵr y bydd y gyfres yn un boblogaidd iawn – mae’r plant sydd wedi ei weld hyd yma wrth eu boddau, ac yn sicr yn gallu datrys rhai o’r posau yn llawer gwell na rhai oedolion!”