Y Menopôs a Fi

S4C | 4 x 30munud

Cyfres sy’n edrych ar sawl agwedd ar y menopôs – yn ddifrifol, yn ddoniol, ac yn wylio hanfodol i ddynion a merched o bob oed!

Bethan Gwanas sy’n cychwyn ar ei thaith i ddod yn gyfarwydd â’r menopôs. Ie, y menopôs!

Wrth i Bethan ystyried sut effaith y bydd o’n ei gael arni hi, cawn glywed am brofiadau llu o ferched Cymru a holi pam ein bod ni’n dueddol o drin y menopôs fel cyfrinach rhwng merched.