Yr Academi Felys

S4C | 6 x 30munud

Gyda’i fusnes cacennau a siocled yn ffynnu mae Richard Holt – un o brif gogyddion patisserie yn y DU – yn edrych am brentisiaid dawnus i ymuno ag ef yn ei Academi Felys.

Mewn cyfres newydd sbon, cawn ddilyn chwech o ddarpar-gogyddion wrth iddynt wynebu llu o heriau pobi arallfydol gan Richard. Mae e hefyd yn rhannu rhai o’r cyfrinachau gorau a ddysgodd wrth weithio ym mwytai seren Michelin.

Meddai Richard: “Rwy’n ysu i ddod o hyd i dalent newydd, rhywun â thalent amrwd sy’n llawn dychymyg a photensial. Dwi’m yn foi sy’n licio neud pethau yn y dull traddodiadol. Felly, dwi ‘di dod fyny efo cystadleuaeth rili uchelgeisiol: sialensiau melys arbennig neith brofi’r cystadleuwyr i’r eitha’!”

Gyda’r hudolus Melin Llynon yn gefnlen, bydd y chwech yn wynebu pob math o heriau creadigol o greu patisseries unigryw i flasau newydd o Mônuts (donuts arbennig o Ynys Môn!) – ond dim ond un fydd yn cael hawlio teitl Yr Academi Felys.

Yn ystod y gyfres bydd cyfle i weld Richard yn dangos ei brofiad eang a dawn coginio anhygoel wrth iddo osod y sialensiau i’r cystadleuwyr a chreu patisseries amrywiol ei hun – gan gynnwys un sydd wedi cael ei ysbrydoli gan hanes Land Rover ar Ynys Môn! Felly, pwy yw’r chwe chystadleuydd lwcus?

Llinos Wyn Jones, 31 o Gaerdydd. Mae Llinos yn wreiddiol o Griccieth a newydd symud i Gaerdydd o Lundain. “Dechreuais i goginio pan oni’n 13 a ddaru fi ddarganfod fy mod yn hoffi pobi fwy na dim arall pan o’n i’n 16. Mae rhai pobl yn hoffi mynd i gerdded, rhedeg neu wneud yoga i ymlacio ond gewch chi hyd i fi yn y gegin efo headphones ‘mlaen.”

Ian Williams, 30 o Gaerdydd: Mae Ian o Sir Fôn yn wreiddiol ond byw yng Nghaerdydd nawr. Mae e newydd roi’r gorau i ddysgu ac eisiau dilyn ei freuddwyd o ennill bywoliaeth yn pobi. “Rydw i wedi bod wrth fy modd yn y gegin ers yn ifanc. Rwy’n mwynhau’r broses o weld cynhwysion yn blodeuo yn gampweithiau boed yn fara, melysfwyd neu’n gacennau ar gyfer unrhyw achlysur.”

Megan Dixon, 20 o Ynys Môn: Mae Megan yn gweithio mewn bwyty a siop gacennau bach ei hun yng Nghaergybi a hefyd yn gwirfoddoli gyda chriw Bad Achub Bae Trearddur. “Dechreuais bobi go iawn yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Ers hynny, rwyf wedi agor siop fach cacennau yng Nghaergybi a rŵan rwy’n mwynhau pobi bron bob dydd! Buasai’n gwireddu breuddwyd cael dysgu sgiliau newydd, yn enwedig sgiliau patisserie gyda Richard.

Rebecca Lloyd, 38 o Ddyffryn Conwy. Mae Rebecca yn dderbynnydd o Drefriw sy’n licio nofio gwyllt ac yn ffan enfawr o Mary Berry! “Rydw i wedi bod yn coginio ers blynyddoedd, mewn ceginau ysgolion a hosbis ond dwi’n hoffi creu cacennau i ffrindiau a theulu. Rwy’n greadigol iawn ac yn hoffi dod a chacen i fyw gyda syniadau gwallgo’!”

Meredith Holyfield, 33, Manceinion (Darth Baker!). Mae Meredith neu ‘Redz’ yn therapydd galwedigaethol yn y gymuned. Mae’n ffan mawr o Star Wars ac yn cael ei adnabod fel Darth Baker! “Dechreuais bobi fel plentyn ym Mangor gyda fy mam, gan bobi cacennau sbwng a bisgedi yn rheolaidd. Trwy lockdown, rwyf wedi datblygu fy sgiliau pobi ymhellach ac wedi dod yn fedrus yn addurno cacennau a sgiliau eraill fel argraffu bwytadwy.”

Leah Edge, 39, o Lanberis. Mae Leah yn berchennog caffi yn Llanberis. “Dwi wedi bod yn coginio ers i fi fod yn 11 ar gyfer y teulu. Mae dad yn Indiaidd felly dwi’n coginio lot efo spices. Dwi wedi bod yn arbrofi efo bagels, croissants, bob dim dwi’n hoffi bwyta! Dwi’n fegan felly’r sialens i fi ydi creu bob dim sydd ddim yn fegan.”