Yr Arglwydd Morris o Aberafan

S4C | 1 x 60munud

Rhaglen sy’n adrodd hanes uchafbwyntiau gyrfa’r gwleidydd a hefyd rhai cyfnodau o siom fel methiant y refferendwm datganoli ym 1979.

Mae’r Arglwydd Morris o Aberafan yn adnabyddus fel Aelod Seneddol a wasanaethodd ei etholaeth am dros 40 mlynedd, fel aelod o Gabinet tri Phrif Weinidog Llafur ac fel y Twrnai Cyffredinol, sef prif ymgynghorydd cyfreithiol y Llywodraeth.

Ond ef hefyd yw “tad datganoli yng Nghymru” yn ôl un o gyfranwyr y rhaglen.

Yn ôl Rob Phillips, archifydd sy’n gyfrifol am Archif Wleidyddol Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol, “Mae Ron Davies wedi cael ei grybwyll fel tad datganoli yng Nghymru ond, yn fy marn i, yr Arglwydd Morris yw’r person, efallai, sy’n haeddu’r teitl yna.”

Mae’r rhaglen yn adrodd hanes uchafbwyntiau gyrfa’r gwleidydd a hefyd rhai cyfnodau o siom fel methiant y refferendwm datganoli ym 1979.

Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, John Morris luniodd y mesur datganoli a dderbyniwyd gan Gabinet Harold Wilson a gan y Tŷ’r Cyffredin yn 1978. “Roedd llwyddo i ennill y frwydr hefo’r gwrth-ddatganolwyr yn y Blaid Lafur yn fuddugoliaeth anferthol ynddo’i hun,” meddai’r sylwebydd gwleidyddol, John Stevenson yn y rhaglen.

Ond methiant fu’r ymgyrch dros ddatganoli ac meddai’r Arglwydd Morris, “Doedd gen i ddim syniad bod y golled yn mynd i fod mor fawr. Roedd rhaid wynebu’r gwir, eich bod chi wedi cael colled ofnadwy.”

Llwyddodd refferendwm datganoli 1997 gyda’r syniadau wedi eu sylfaenu ar hen ddeddf 1978, yn ôl yr Arglwydd Morris. “Doedd ‘na fawr o wahaniaeth rhwng y ddeddf newydd a’r hen un. Yr un mesur ydy e. Doedd dim angen gwaith newydd a dyna sut y paratowyd e mor gyflym. Mi oedd fy mysedd i ar y delyn honno o’r dechrau i’r diwedd.”

Mae’r rhaglen yn dilyn hanes yr Arglwydd Morris o’i ddyddiau cynnar fel mab fferm yn Nhalybont, Ceredigion, i’w fywyd coleg yn Aberystwyth a Chaergrawnt – ble ymunodd e â’r Blaid Lafur – ei gyfnod yn y fyddin a’i waith fel bargyfreithiwr. Fel gwleidydd, fe’i hetholwyd yn Aelod Seneddol Aberafan yn 1959 a gwasanaethodd yr etholaeth nes ei ymddeoliad yn 2001 a’i urddo wedyn yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae’r Arglwydd Morris yn sôn hefyd yn y rhaglen am ei amser yng Nghabinet Harold Wilson, wedyn James Callaghan ac yn ola’ Cabinet Tony Blair yn y nawdegau fel y Twrnai Cyffredinol. Bu hefyd yn Weinidog Ynni, yn Weinidog Trafnidiaeth ac yn y Weinidogaeth Amddiffyn cyn cael ei benodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1974. Mae’n trafod y dilemâu moesol bu’n rhaid iddo wynebu yn ei amser yn y Weinidogaeth Amddiffyn ac fel Twrnai Cyffredinol ynglŷn â’r rhyfel ym Miaffra yn y 1960au a’r rhyfel yn Kosovo yn y 1990au.

Cawn olwg hefyd ar fywyd teuluol yr Arglwydd Morris. Mae’n cydnabod ei ddyled fawr i’w wraig Margaret ‘a gododd y teulu’.’ Mae eu merch, Nia yn un o’r cyfranwyr eraill ar y rhaglen yn ogystal â brawd yr Arglwydd Morris, yr Athro David Morris.