Rhagddangosiadau arbennig ledled Cymru.
Bydd plant drwy Gymru benbaladr yn falch iawn o glywed bod y gyfres newydd o Deian a Loli ar fin cyrraedd y sgrin – a hynny gyda chast newydd sbon!
Efeilliaid direidus ydi Deian a Loli, sy’n medru rhewi eu rhieni i’r unfan a gwneud eu hunain yn bitw bach. Ers pan ddarlledwyd y gyfres gyntaf yn ôl yn 2016, mae Deian a Loli wedi parhau i fynd o nerth i nerth, gan gydio yn nychymyg plant Cymru.
Cwmni Da yng Nghaernarfon sy’n gyfrifol am y gyfres – a gipiodd y wobr am y Rhaglen Blant Orau yng ngwobrau BAFTA Cymru y llynedd. Hon fydd y drydedd cyfres, ac mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer y bedwaredd cyfres, fydd yn cael ei ffilmio yn haf 2019.
Ond i’r rhai sydd ddim yn gallu aros i weld y penodau newydd ar S4C, bydd cyfle ecsglŵsif i gael blas o rai ohonynt mewn rhagddangosiadau arbennig dros gyfnod y Nadolig yn Pontio, Bangor; Y Drwm, Aberystwyth a Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin. Mae disgwyl y bydd cyffro a galw mawr am docynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn; pan gynhaliwyd rhagddangosiadau tebyg y llynedd, diflannodd dros 800 o docynnau o fewn ychydig oriau!
I ddechrau, ar ddydd Sul, 23 Rhagfyr, bydd Pontio yn cynnal 3 dangosiad – gyda sesiwn gwestiwn ac ateb gyda’r cast i ddilyn y dangosiad cyntaf.
Ar yr un diwrnod, bydd Canolfan S4C Yr Egin yn cynnal dau ddangosiad, am 11am a 1pm.
Bydd y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn cynnal dangosiadau ar ddydd Iau, 3 Ionawr am 11am a 2pm.
Yn cymryd rhan yn y sesiwn gwestiwn ac ateb yn Pontio fydd yr actorion newydd Gwern Rhys Jones o Lanrug (Deian) a Lowri Anes Jarman o Lanuwchllyn (Loli) ynghyd â’r cyfarwyddwr (Martin Thomas) a Rhian Blythe (Mam) a Simon Watts (Dad).
Dywed Angharad Elen, cynhyrchydd y gyfres,
“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr i weld ymateb y gynulleidfa i’r Deian a Loli newydd, ac i’r straeon newydd. Bydd yr gyfres newydd yn gweld yr efeilliaid direidus yn cyfarfod môr-forynion, cewri, ystlumod a chonsurwyr ac yn mynd ar anturiaethau rhyfeddol o dan y ddaear, i lawr cefn y soffa ac i wlad llawn hufen iâ.”
Bydd y tocynnau yn rhad ac am ddim ac yn cael eu rhyddhau i’r cyhoedd am 2pm ar ddydd Gwener, 16 Tachwedd drwy gysylltu efo’r canolfannau yn uniongyrchol.
Bydd y gyfres newydd yn dechrau ar S4C ar 2 Ionawr 2018 am 7:45am.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Angharad Elen:
angharad.elen@cwmnida.tv