Mae Cwmni Da a Triongl wedi cael comisiwn gan S4C i gynhyrchu cyfres ddrama newydd sbon o’r enw Stad, fydd wedi ei gosod ar stad tai cyngor yng Nghaernarfon. Bydd y gyfres yn dilyn hynt a helynt trigolion stad ddychmygol Maes Menai, gan ailymweld â rhai o’r cymeriadau a ymddangosodd yn y gyfres wreiddiol, gydag ambell i wyneb newydd yn ymuno â’r cast. Roedd Tipyn o Stad yn gyfres hynod boblogaidd a gynhyrchwyd gan Tonfedd Eryri a Cwmni Da, a ddaeth i ben yn 2008 yn dilyn saith cyfres lwyddiannus.
Bydd y gyfres newydd yn cael ei chynhyrchu a’i ffilmio yn ardal Caernarfon ac yn cael ei storïo a’i sgriptio gan Angharad Elen, Daf Palfrey a Manon Wyn Jones – a’r gobaith ydi y bydd yn rhoi hwb i’r diwydiant teledu yn y gogledd.
Yn ôl Angharad Elen, Cynhyrchydd Datblygu Drama Cwmni Da, “Mae’n fraint cael sgrifennu am gymeriadau y gymuned yma yng Nghaernarfon – a finna wedi cael fy addysg yn y dref, ac yn dal i weithio a byw yn yr ardal. Yr her ydi dal gafael yn yr hyn a wnaeth y gyfres wreiddiol mor llwyddiannus – yr hiwmor, y cyffro, y cliffhangers – a’i droi yn rhywbeth newydd sy’n teimlo’n ffres ac yn annisgwyl ac yn mynd dan groen y cymeriadau o ddifri. Hwn fydd ein cynhyrchiad cyntaf ni ar y cyd â Triongl, perthynas sydd wedi blaguro rhyngom yn ddiweddar a rydym ni gyd yn edrych ymlaen yn arw i gydio yn y gwaith.”
Mae cynyrchiadau Triongl yn cynnwys y gyfres ddrama Pili Pala a’r rhaglen gerddorol Lleisiau Eraill ac mae cynnyrch diweddar Cwmni Da yn cynnwys y gyfres ddrama i blant meithrin Deian a Loli, y sitcom Rybish a’r rhaglen ddogfen Eirlys, Tim a Dementia.
Yn ôl Nora Ostler, Uwch-gynhyrchydd Triongl, a gafodd ei magu yn yr ardal hefyd: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i anadlu bywyd newydd i mewn i gyfres a fu mor boblogaidd ar y sianel, gan geisio crisialu anian a hiwmor cymeriadau’r dref. Wrth gwrs, mae Caernarfon wedi newid llawer yn y pymtheg mlynedd ddiwethaf – bydd yn ddifyr gweld sut mae rhai o’r hen gymeriadau wedi newid hefyd.”
Daeth cyfres olaf Tipyn o Stad i ben gan adael y gynulleidfa ar flaenau eu seddi wrth i Heather Gurkha (Jennifer Jones) gael ei saethu y tu allan i glwb nos ei chariad, Ed Lovell (Bryn Fôn). Bron i bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, bydd Stad yn ateb y cwestiwn tyngedfennol a fu ar wefusau pawb fyth ers hynny – beth ddigwyddodd wedyn?
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: “Dwi’n falch iawn o gyhoeddi y comisiwn cyffrous hwn. Daeth apêl Tipyn o Stad yn amlwg yn ddiweddar wrth i do newydd o bobl ifanc heidio at S4C Clic i wylio bocs sets y gyfres yn ystod y cyfnod clo. Yn sicr mae ’na awydd gwirioneddol ymysg y gynulleidfa i ailgydio ym mywydau cymeriadau lliwgar y gyfres wreiddiol. Bydd Stad yn bodloni’r awydd hwnnw, tra’n teimlo’n newydd ac yn berthnasol ar yr un pryd.”
Llwyddodd cyfresi Bocs Sets Tipyn o Stad ar S4C Clic i ddenu bron i 240,000 o sesiynau gwylio. Bydd Stad yn cychwyn ffilmio yn 2021 gyda’r gyfres ar sgrin yn 2022.