Mae cwmni cynhyrchu teledu yng Ngwynedd wedi recriwtio triawd o hyfforddeion dawnus gan gynnwys un sydd eisoes wedi gweithio ar sawl ffilm Hollywood.
Dywedodd y tri fod y penderfyniad diweddar i droi Cwmni Da o Gaernarfon, yn gwmni sy’n eiddo i staff wedi eu denu at y cwmni arobryn sy’n ymfalchïo mewn “meithrin pobl ifanc dalentog”.
Mae’r dechreuwyr newydd yn cynnwys y golygydd dan hyfforddiant Tomos Morris Jones, 22 oed, o Dregarth ger Bangor, a’r technegydd sain aml-sgil dan hyfforddiant Dan Jones, 27 oed, sy’n hanu o Gaerdydd yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Nhudweiliog ar Benrhyn Llŷn.
Hefyd yn eu plith y mae Siwan Cati, 25 oed, o Lanfairpwll, ar Ynys Môn, y mae ei gyrfa eisoes yn cynnwys gweithio ar Isle of Dogs, y ffilm wyddonias wedi’i hanimeiddio.
Cafodd y ffilm ei hysgrifennu, ei chynhyrchu a’i chyfarwyddo gan Wes Anderson, ac mae’n cynnwys lleisiau seren Breaking Bad Brian Cranston, yr enillydd Oscar Tilda Swinton a’r actor comedi Bill Murray, a ddaeth i enwogrwydd yn Groundhog Day a Ghostbusters.
Mae Siwan, sydd bellach yn hyfforddi i ddod yn dechnegydd ôl-gynhyrchu yn Cwmni Da, hefyd wedi gweithio ar ffilm oedd yn ail-greu cartwnau Tom and Jerry gan Warner Bros a Maleficent 2, y ffilm Disney gydag Angelina Jolie a Michelle Pfeiffer, y bydd ei dangosiad cyntaf yn Ewrop yn cael ei gynnal yn Rhufain ar Hydref 7.
Y llynedd aeth Siwan i Seland Newydd lle bu’n gweithio ar y gyfres animeiddio i blant, Kiri and Lou, sy’n ymwneud â chyfeillgarwch dau ddeinosor a’u hanturiaethau yn y goedwig.
Dywedodd Siwan ei bod hi wrth ei bodd i gael swydd gyda chwmni teledu mor uchel ei barch a blaengar yn ei hardal enedigol.
Meddai:
“Yn wreiddiol roeddwn i eisiau bod yn olygydd ond ar ôl gadael y brifysgol cefais gynnig swydd fel hyfforddai camera yn Llundain ar Isle of Dogs a oedd yn cael ei gwneud gan Wes Anderson. Arhosais am ddwy flynedd a dysgais lawer. Roedd yn brofiad gwych a rhoddodd lawer o sgiliau i mi. Roedd yn deimlad hyfryd cael bod yn rhan o ffilm mor enwog a phwysig. Roeddem fel uned deuluol fechan ac roedd hi’n drist iawn pan aeth pawb eu ffordd eu hunain ar ddiwedd y ffilm. Ond mae’n wych bod yn ôl adref yng ngogledd Cymru ar ôl bod yn Llundain a Seland Newydd. Ôl-gynhyrchu yw’r hyn rydw i wir eisiau ei wneud ac roeddwn i’n gwybod bod gan Cwmni Da enw rhagorol ac roedd y newid yn strwythur y cwmni hefyd yn rhan o’r rheswm roeddwn i mor awyddus i gael swydd yma.”
Adleiswyd y teimlad hynny gan Dan Jones a oedd ar ei ail ddiwrnod gyda Cwmni Da.
Meddai:
“Rwy’n ymuno â’r cwmni ar adeg gyffrous iawn yn ei hanes wrth iddo ddod yn ymddiriedolaeth sy’n eiddo i’r gweithwyr. Mae Cwmni Da yn gwneud amrywiaeth anhygoel o raglenni yma, popeth o sioeau plant i raglenni adloniant a rhaglenni dogfen, felly mae yna lawer o gyfleoedd yma.”
Dywedodd Tomos Morris Jones, a enillodd radd dosbarth cyntaf mewn newyddiaduraeth a’r cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor yr haf hwn:
“Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy newis i gael swydd yma yn syth ar ôl graddio oherwydd fy mod i wedi bod yn gwylio cynyrchiadau Cwmni Da am flynyddoedd ac mi ddes i yma ar brofiad gwaith pan oeddwn i yn yr ysgol. Roeddwn i’n gwybod eu bod yn gwmni ardderchog ac rwy’n siŵr y byddaf yn mwynhau gweithio yma.”
Roedd y rheolwr gyfarwyddwr Dylan Huws yn falch iawn o groesawu’r tri i Cwmni Da.
Y llynedd fe wnaeth hanes pan gyhoeddodd ei fod yn troi’r cwmni, sydd werth £5 miliwn y flwyddyn ac sy’n cyflogi 50 o bobl, yn gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr mewn cam y credir ei fod gyda’r cyntaf yn niwydiant darlledu’r Deyrnas Unedig.
Dywedodd:
“Mae’r cwmni wedi’i adeiladu ar ddoniau ifanc dros y blynyddoedd. Mae yna nifer o bobl sy’n gweithio yma bellach a ddechreuodd gyda’r cwmni ac sydd wedi datblygu a dod i fyny drwy’r rhengoedd, o fod yn ymchwilwyr, i fod yn gyfarwyddwyr a chynhyrchwyr. Rydym bob amser yn chwilio am dalent ffres a all ddod ag egni a syniadau newydd i Cwmni Da. Rydym hefyd yn credu ei bod yn ddyletswydd ar gwmni fel ein un ni i gynnig hyfforddiant i bobl sydd eisiau gweithio yn y diwydiant a chyfrannu ato, yn enwedig yn y rhan hon o’r byd. Mae’r cwmni wedi newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan drosglwyddo perchnogaeth i’r gweithwyr, ac rydym yn ceisio ehangu ein marchnadoedd. Rydym yn ceisio gweithio’n rhyngwladol yn ogystal ag ar gyfer ein prif gwsmeriaid yn S4C, ac mae yna gyfleoedd gwych i bobl ifanc fel Siwan, Dan a Tomos i ddatblygu a thyfu’n broffesiynol yma.”