Ydych chi’n angerddol am Gyfryngau Cymdeithasol?
Ydych chi eisiau datblygu cynnwys gydag un o gwmnïau cyfryngau mwyaf Cymru?
Mae Cwmni Da yn chwilio am berson creadigol a brwdfrydig i ymuno â’n tîm digidol llwyddiannus.
Fe fyddech chi’n helpu i ddatblygu ac yn cyfrannu at ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol sy’n rhedeg ochr wrth ochr gyda’n portffolio eang o gynyrchiadau. Fe fyddech chi’n cynnig syniadau newydd ar gyfer platfformau digidol ac yn datblygu sgiliau cynhyrchu amrywiol.
Mae profiad yn ddelfrydol ond bydd hyfforddiant ar gael.
Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus siarad o leiaf rhywfaint o Gymraeg ond os ydych chi ddim yn rhugl, mae hwn yn gyfle arbennig i chi wella’ch sgiliau iaith.
Mae Cwmni Da yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal gydag ymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant.
Cyflog : ddibynol ar brofiad
Dyddiad Cau: 11/2/22
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais fan hyn a’i anfon at digidol@cwmnida.tv