Goleuad

Mae Cwmni Da yn chwilio am Swyddog Cyllid brwdfrydig i ymuno â thim cyllid bychan ond prysur yma yng Nghaernarfon.

Mae Cwmni Da yn gwmni cynhyrchu annibynnol wedi ei leoli yng Nghaernarfon. Mae’n cynhyrchu rhaglenni adloniant, adloniant ffeithiol, dogfen, plant, chwaraeon, comedi a drama. Mae cynhyrchiadau’r cwmni wedi ennill gwobrau yng Nhymru, y DU a thu hwnt ac wedi derbyn canmoliaeth am eu safonnau cynhyrchu uchel. Ymysg cynhyrchiadau diweddar Cwmni Da mae Deian a Loli, Bwyd Epic Chris, Garddio a Mwy, Noson Lawen, Canu Gyda Fy Arwr a Ffit Cymru. Bydd y swydd yn un rhan amser ac rydym yn gallu bod yn hyblyg gyda’r oriau hyn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar bob cynhyrchiad mae’r Cwmni yn ei gynhyrchu.

Mae’r cwmni yn gwmni sydd ym mherchnogaeth y gweithlu a bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn dod yn rhan o’r strwythur perchnogaeth ar ôl blwyddyn o gyflogaeth.

 

Prif Ddyletswyddau

  • Delio gydag Anfonebion Cyflenwyr a Chwsmeriaid
  • Prosesu Datganiadau Cerdyn Credyd
  • Paratoi Adroddiadau Ariannol ar gyfer Rheolwyr Cynhyrchu
  • Prosesu Arian Parod

 

Sgiliau Allweddol

  • Gallu rhifedd cryf ee TGAU Mathemateg da
  • Dealltwriaeth o becyn Cyfrifon
  • Dealltwriaeth o feddalwedd taenlen (ee Excel)
  • Cyfathrebu da trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg

 

Sgiliau Dymunol 

  • Cymhwyster Cyllidol e.e AAT rhanol neu llawn
  • Profiad o becyn cyfrifeg Sage 50
  • Profiad o becyn meddalwedd Excel

 

Rhinweddau – Gweithgar, trylwyr, trefnus, hwyliog a pharod i gynorthwyo eraill.

Cyflog – yn ôl profiad

Oriau – 24 awr yr wythnos

Lleoliad – Caernarfon

 

Gallwch lawr lwytho’r ffurflen gais fan hyn

Dyddiad Cau : 02/04/2021