Cofnodion

Doc Fictoria

This is an advertisement for the rôle of Post-Production & Resources Technician, for which Welsh language skills are essential.

Technegydd Ôl-Gynhyrchu ac Adnoddau

Y Swydd:

Mae Cwmni Da yn chwilio am Dechnegydd Ol-Gynhyrchu ac Adnoddau i ymuno ac adran ôl-gynhyrchu prysur.

Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn brofiadol gyda gweithdrefnau a meddalwedd amrywiol a geir mewn stafell beiriannau (MCR), yn gyfarwydd â chamerau ac adnoddau sain amrywiol, ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol gwych.   Prif ddyletswyddau’r ymgeisydd llwyddiannus fydd rhoi cefnogaeth technegol i’r golygyddion a stafelloedd dybio yn ogystal â chydlynnu a pharatoi camerau/offer sain yn barod i fynd allan i saethu.

 

Hyfforddiant:

 

Rydym yn awyddus i glywed gan bobl profiadol yn ogystal â’r rhai sydd am gychwyn gweithio yn y maes. Cynnigir hyfforddiant mewn swydd lle’n berthnasol.

 

Cyflog:  I’w Drafod

Oriau:  Llawn Amser (Cytundeb 6 mis i gychwyn)

Lleoliad y Swydd: Caernarfon 

Cwmni Da

Mae Cwmni Da yn gwmni cynhyrchu annibynnol wedi ei leoli yng Nghaernarfon. Mae’n cynhyrchu rhaglenni adloniant, adloniant ffeithiol, dogfen, plant, chwaraeon, comedi a drama. Mae cynhyrchiadau’r cwmni wedi ennill gwobrau yng Nhymru, y DU a thu hwnt ac wedi derbyn canmoliaeth am eu safonnau cynhyrchu uchel. Ymysg cynhyrchiadau diweddar Cwmni Da mae Deian a Loli, Bwyd Epic Chris, Garddio a Mwy, Noson Lawen, Canu Gyda Fy Arwr a  Ffit Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn ymuno ag adran Ôl-Gynhyrchu creadigol, brwdfrydig a phroffesiynnol sy’n meddu ar y safonnau technegol uchaf posib.

Mae’r cwmni yn gwmni sydd ym mherchnogaeth y gweithlu a bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn dod yn rhan o’r strwythur perchnogaeth.

 

Sgiliau allweddol : 

 

Hanfodol:

  • Diddordeb yn ochr Technoleg o Ôl-Gynhyrchu
  • Brwdfrydedd am offer camera
  • Siaradwr Cymraeg

Buddiol:

  • Profiad gydag Avid Media Composer/gweithio mewn stafell beiriannau
  • Profiad gydag offer Camra a Sain

 

 

Nodweddion personol:

  • Y gallu i gyfathrebu yn dda a bod yn rhan o dîm
  • Meddwl trefnus
  • Agwedd hyblyg
  • Person sy’n cynnnig atebion i broblemau
  • Hiwmor

 

Ceisiadau

CV a llythyr yn egluro pam eich bod yn addas ac a diddordeb yn y swydd at

post@cwmnida.tv erbyn Chwefror 25ain,  2021.