Ydi canu mewn côr yn help i ddysgu Cymraeg?

Yn ôl ystadegau gwladol, Sir Benfro yw’r ardal sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn siaradwyr Cymraeg dros y ddegawd ddiwetha’ – ond a ydi canu yn help i ddysgu’r iaith?

Dyma’r cwestiwn fydd y canwr enwog Rhys Meirion yn ceisio ei ganfod yn rhan o’r gyfres boblogaidd Corau Rhys Meirion.

Yn nhrydedd bennod y gyfres, fydd ymlaen nos Iau, 20 Chwefror am 8 o’r gloch ar S4C, mi fydd Rhys yn cydweithio gyda chôr o ddysgwyr Cymraeg yn Sir Benfro i ddiolch ac i ddathlu bod bwrlwm am yr iaith yn fyw yn yr ardal.

“Un ardal sy’n cael ei gweld yn dalcen caled yng nghyd-destun yr iaith ydi Sir Benfro – neu ‘Little England beyond Wales’ fel mae’n cael ei adnabod!” meddai Rhys Meirion, “ond mewn gwirionedd, mae ‘na lot fawr o bobl yn yr ardal yn dysgu Cymraeg.

“Ein bwriad ni ydi profi bod bwrlwm yno ynghylch yr iaith, gan ddiolch i’r bobl am ddysgu Cymraeg hefyd.”

Mi fydd y côr yn rhoi tro ar grefft sy’n gynhenid i’r ni yma yng Nghymru – Cerdd Dant!

“Doedd canu yn Gymraeg ddim yn ddigon o her i’r côr yma, felly ‘da ni wedi newid gêr a’u herio nhw hyd yn oed yn fwy gan ofyn iddyn nhw ganu Cerdd Dant. Doedd rhai ddim hyd yn oed wedi clywed am Gerdd Dant o’r blaen, heb sôn am ei berfformio!” ychwanegodd Rhys.

“Ond nid y côr yn unig oedd yn wynebu her. Roedd rhaid i mi osod pennill ar gyfer y perfformiad hefyd, a minnau erioed wedi gwneud hynny o’r blaen! Mae canu yn glasurol a chanu Cerdd Dant yn ddau beth hollol wahanol.”

Yn y rhaglen hon, sy’n ddathliad o’r iaith Gymraeg, byddwn yn cwrdd ag ambell i gymeriad yn yr ardal sydd wedi troi at ddysgu’r iaith am amryw o resymau. Dau o’r rheiny yw’r teulu ifanc, Meg a Ross, a’u tri o blant yn ardal Druidston.

Mi symudodd Meg, sy’n wreiddiol o’r ardal, nôl i Sir Benfro gyda’i gŵr Ross, sy’n wreiddiol o Glasgow, nôl yn 2012. Mae’r ddau erbyn hyn wedi dysgu Cymraeg yn rhugl.

“Roedd fy Nain yn dod o ogledd Sir Benfro, ond doddem ni ddim yn siarad Cymraeg gyda hi. Roedd o’n andros o bwysig i mi fod fy mhlant yn dysgu Cymraeg. Mi rydym ni’n teimlo’n lwcus achos mae’r plant yn mynd i ysgol Gymraeg ac maen nhw’n siarad yr iaith fel iaith gyntaf. Mae’r iaith yn fyw unwaith eto yn ein teulu ni,” rhannai Meg gyda Rhys Meirion yn y rhaglen.

Penllanw’r daith fydd perfformio yng Nghadeirlan Tŷ Ddewi, ble fydd y côr yn perfformio eu dehongliad nhw o gerdd Idris Reynolds, Gofyn Cymwynas, ar y gainc Rhydypennau.